AwstynJONESBODAFON, RHOSFAWR. Dymuna'r teulu ddatgan eu gwerthfawrogiad am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl, yn ogystal am y rhoddion hael er cof tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl a Sioe Flodau a Chynnyrch Y Ffor. Diolch o galon i staff ward Llyn, Ysbyty Bryn Beryl, Gofalwyr Cartref a holl aelodau staff Meddygfa Treflan am eu gofal a chymorth cyson. Diolch arbennig i'r Parch Aled Davies, Hybarch Andrew Jones, Parch Geraint Roberts, Mrs Alwena Roberts yr organyddes a Popty Foel a Lluar am eu gwasanaeth ddydd yr angladd. Diolch hefyd i Nia ac Ifan Hughes am y trefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates