Evan EmrysJONESEMRYS BWTSHWR Yn dawel, nos Sadwrn, 23ain Mawrth 2019, hunodd Emrys, Derlwyn, Blaenycoed yn 96 oed. Priod annwyl Jean a'r ddiweddar Maggie. Tad gofalus Elsbeth, Janice a'u gwŷr Eifion a Roy. Tadcu cariadus Sioned, Aled, Gethin, Ffion a Sean a 'Dycs' spesial Erin, Dion, Greta a Hanna. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Blaenycoed, Ddydd Sadwrn, 30ain Mawrth am 1.30pm. Dim blodau ond rhoddion pe dymunir at Diabetes Cymru ac Adran Chemotherapi Glangwili trwy law Delme James, Trefnwr Angladdau, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE (01994 484540).
Keep me informed of updates