Margaret SandraJONESJONES - MARGARET SANDRA, 2 Medi, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, 33 Maes Meddyg, Caernarfon, yn 74 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Stan, mam annwyl Paul a'i gymar, Catrin, nain arbennig Hywel a Cara a chyfaill triw i lawer. Angladd brynhawn Llun, 9 Medi, 2019. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd ym Maes Meddyg, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig am oddeutu 12.15 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag elusennau Marie Curie a Hosbis yn y Cartref. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret