Judith AeronaJONESHunodd yn dawel bore Iau Mawrth 19eg yng nghartref Tregerddan yn 96 mlwydd oed, Aerona, Nantllan, Gwnnws, Ystrad Meurig, cyn brifathrawes Ysgol Gynradd Swyddffynnon. Chwaer annwyl Evan, Augusta a'r diweddar Margaret, Jane Anne, Gladys ac Ada a modryb hoffus iw theulu. Gwasanaeth cyfyngedig yn ol rheolau presennol. Cynhelir gwasanaeth coffa yn y dyfodol. Ymholidau pellach i Tom Eurfyl Jones, Trefnwr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffon: (01974) 298500.
Keep me informed of updates