Dilwyn PhillipsJONESDil Yn dawel yn ei gartref ar fore ddydd Iau Awst 13eg 2020 yng nghwmni ei deulu hunodd Dil, Tŷ Cornel, Cross Inn. Priod cariadus Mervina, tad annwyl Jan, Son a Deni, tad yng nghyfraith hoffus Dai, Pete a Richard, tadcu balch Elis, Beca, Danny, Alys, Megan, Osian a Morgan. Gwasanaeth angladdol hollol breifat yn unol a'r amgylchiadau presennol yng Nghapel Pencae, dydd Mercher Awst 19eg 2020 am 11 o'r gloch. Ymholiadau pellach i Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffon - 01545 590254
Keep me informed of updates