Laura ElunedJONESDymuna Gwenda, Gwyneth a theulu'r diweddar Laura Eluned Jones, Llys Owain, Rhosgadfan ddiolch o galon am y cydymdeimlad a'r caredigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen-nain arbennig. Diolch i'r Parchedig Megan Williams am ei gwasanaeth teimladwy ddydd yr angladd, ac i Roberts ac Owen, Pen-y-groes am eu trefniadau trylwyr a'u gofal ohonom. Bydd y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof yn cael eu trosglwyddo i Ward Peblig, Ysbyty Eryri. Yn olaf, rydym fel teulu yn gwerthfawrogi, o dan yr amgylchiadau presennol, y nifer a ddaeth i Fynwent Cefnfaes ddydd yr angladd. Diolch yn fawr.
Keep me informed of updates