William BryanJONESYn dawel yng Nghartref Annedd, Llanybydder, nos Fawrth, Hydref 27ain, 2020 hunodd Bryan, Delfryn, Bryngwyn, Castellnewydd Emlyn, priod annwyl Bethan, tad cariadus Dylan ac Ellen, tad-yng-nghyfraith Llŷr a thad-cu balch Marged a Rheon. Angladd breifat ddydd Mawrth, Tachwedd 3ydd ym Mynwent Parce. Blodau'r teulu yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ymchwil Dementia trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. Ffôn 01239 654240.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William