Peter MorrisJONESDymuna Gwen, Catrin a theulu'r diweddar Peter Morris Jones, Llain Las, Lôn Ceredigion, Pwllheli ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth sydyn o golli gwr, tad a thaid arbennig iawn. Mawr yw ein diolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu gofal ohonom ac i'r gwasanaethau ambiwlans am eu gwaith diflino. Diolch arbennig i'r Parchedig Bryn Williams fu mor dyner a theimladwy ohonom. Ein diolch i Mr G D Roberts a'i fab, Capel Gorffwys, Pwllheli am drefniadau urddasol a thrylwyr. Yn olaf diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Cyfeillion y Samariaid (Pwllheli a Bangor) a Tim Irfon (Ward Alaw Ysbyty Gwynedd Bangor).
Keep me informed of updates