Sara AnestJONESDymunwn ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atom yn ein profedigaeth frawychus a disymwth. Diolch am y llu galwadau ffôn, llythyrau a chardiau, ac am y rhoddion hael tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r Parchedig Huw Dylan Jones am ei wasanaeth cynnes a theimladwy, ac i A G Evans a'i feibion am eu trefniadau trylwyr, ynghyd ag Aled Jones am drefnu'r uchel seinydd. Diolch yn arbennig i deulu, cymdogion a ffrindiau am ein cynnal a'n cynorthwyo drwy'r amser anodd yma. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr. Aled, Ann ac Osian, Braich Ddu
Keep me informed of updates