Parchedig TreforJONESGorffennaf 27, 2022, yn dawel yng nghartref Bryn Seiont Newydd, Caernarfon, yn 97 mlwydd oed. Priod ffyddlon a gofalus Rhoda am dros 70 mlynedd. Tad arbennig Geraint Clwyd a'i wraig Sioned. Taid hoffus a charedig i Lisa a'i gŵr Geraint ac Euros a'i wraig Tamany. Hen daid balch i Huw, Ifan, Gwenllian, Gwawr ac Eban. Brawd y diweddar John a'r ddiweddar Beryl. Gŵr urddasol ac un a gysegrodd ei fywyd fel gweinidog uchel iawn ei barch a phregethwr grymus. "Ac o'i bregethau i gyd, y fwyaf oedd ei fywyd". Bydd colled enfawr ar ei ôl i'w deulu a llu mawr o gyfeillion. Gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch i ddathlu ei fywyd yng nghapel Seilo, Caernarfon, dydd Gwener, 12 Awst am 12 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Gapel Seilo, Caernarfon drwy law yr ymgymerwyr R & J Hughes (sieciau i gyd yn daladwy i 'R & J Hughes and Son Ltd' neu ewch ar ein gwefan www.rjhughesandson.co.uk). R & J Hughes a'i Fab, Capel Penuel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF, Ffôn: 01248 723497
Keep me informed of updates
Add a tribute for Parchedig