AlwynJONES30ain o Orffennaf, 2022. Yn dawel yn ei gartref gyda'i deulu, o Tan y Cae, Tan y Coed, Llanrug, (a 3 Tai Tan y Coed, Llanrug cyn hynny) ac yn 91 mlwydd oed. Priod ffyddlon a gofalus y ddiweddar Beryl Mai, tad cariadus Delyth, Dylan, Sharon a'r diweddar Tomi, taid hoffus Llion a'i bartner Lowri, Elliw a'i gwr Ceirion, Gwenlli a Llyr, a Rheinallt a Gwenlli, a 'Taid Alwyn' i Efan a Bili. Cynhelir Gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent Llanrug, am 2 o'r gloch, dydd Mawrth, 9fed o Awst. Dim blodau ond os dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Y Feddygfa, Waunfawr. Ymholiadau: E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates