John LlewelynJONESCarai Joyce, Nia a'r teulu ddiolch yn ddiffuant i'r holl deulu,ffrindiau a chymdogion, yn ogystal â chydweithwyr John, am bob cymorth a chysur a gawsom drwy ei waeledd annisgwyl a'n profedigaeth diweddar. Boed yn gardyn, ymweliad, neges ffôn neu neges ar y stryd, rydym yn hynod ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi eich geiriau caredig a'ch cydymdeimlad. Yn ogystal, hoffwn ddiolch o galon i staff Ysbyty Bryn Beryl am y fath ofal tyner a gafodd am wythnosau, ac am y croeso cynnes a chefnogaeth a gawsom ganddoch bob dydd a nos. Diolch hefyd i'r Parchedig W.Bryn Williams a'r ymgymerwyr G D Roberts am drefnu a chynal gwasanaeth mor gynnes. Bydd colled mawr ar ôl John Llew.
Keep me informed of updates