NansiJONES15 Rhagfyr, 2022. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Nyrsio Bryn Seiont, Caernarfon, gynt o Noddfa, 50 Bangor Street, Y Felinheli yn 94 mlwydd oed. Mam annwyl Dafydd Gareth Jones a'r diweddar William Richard Jones, mam-yng-nghyfraith gwerthfawr Nerys a gweddw'r diweddar Owen Henry Jones; nain hoffus Owain, Rhys, Elin, Ceri, Elliw, Aron ac Osian, a hen-nain ofalus Kayla Lee, Noa-Jac, Meia-Elliw, Ena-Heidi. Hefyd ffrind ffyddlon a chywir i lawer a bydd colled mawr ar ei hôl. Angladd brynhawn Iau, 5 Ionawr, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Bydd lluniaeth ysgafn yn dilyn y gwasanaeth yn Y Garddfon, Y Felinheli. Bydd yr orymdaith angladdol yn mynd trwy Y Felinheli am oddeutu 11.30 o'r gloch. Dymuna'r teulu ddiolch i bawb yng Nghartref Bryn Seiont am y gofal tyner a chariadus a roed i Nansi. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Nansi tuag at Dementia UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates