Megan OlwenJONESMai 6ed. 2023, yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd ac o Pen y Bryn, Llandwrog, yn 94 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Robert Isaac Jones (Bob Tai Gwynion) am 62 o flynyddoedd. Chwaer ei diweddar frodyr a chwiorydd, chwaer yng nghyfraith, modryb a hen fodryb annwyl a charedig. Gwasanaeth i'r teulu yn unig yn ei chartref am 10.30 fore Sadwrn, Mai 27ain. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bwlan M.C. Llandwrog am 11 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Llandwrog. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Megan at Gronfa'r Deillion a Chlefyd y Galon yn lleol naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr ymgymerwr. Sieciau yn daladwy i H.J. Jones, Donations Account os gwelwch yn dda. Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Megan