John HaydnJONESYn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref ar ddydd Llun 10 Gorffennaf 2023 hunodd John (Porthmawr, Llanon gynt) yn 77 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Amy, tad cariadus Nia, Alan a Mererid, tad yng nghyfraith parchus Aled, Hannah a Rhys, tadcu tyner Llŷr, Eilidh, Talia, Byrti, Greta a Trystan, brawd hoff Lloyd a'r diweddar Ann a Gwyn a brawd yng nghyfraith arbennig Mary, Llywela, Donna a'r diweddar Cliff. Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei deulu a llawer o gyfeillion annwyl. Gwasanaeth hollol breifat yng Nghapel Seilo Llanon ac yna i ddilyn ym mynwent Llansantffraed ar ddydd Llun, 17 Gorffennaf 2023. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, er cof am John tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Severn Hospice trwy law D Jones a'l fab, Trefnwyr Angladdau, Manor Peris, Llanon, Ceredigion, SY23 5HJ, Ffon: 01974202208.
Keep me informed of updates