Robert RowlandJONES19 Awst 2023 yn dawel yn Hosbis Dewi Sant, Caergybi o Ceris, Llanfechell yn 89 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Elizabeth Elen Jones, tad tyner Dorothy, taid hoff Niel a Natalie, a brawd hoffus Wyn, Vaughan ac Adamela a'r diweddar John a Dilys. Angladd preifat, dydd Gwener, 25 Awst. Gwasanaeth yn ei gartref am 10.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Ebenezer, Llanfechell. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Hosbis Dewi Sant, Caergybi trwy law: Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates