DannyJONESYn dawel ddydd Sadwrn 2ail o Fedi yn 'Burrows Hall', Llangennith, David Daniel o Fferm Carreg Lwyd, Felindre. Gŵr annwyl Helen, tad cariadus Ieuan, Eryl a Siân. Gwelir ei golled yn fawr gan ei deulu oll. Angladd ddydd Mawrth 19eg o Fedi, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Nebo, Felindre, Abertawe, SA5 7NB am 1:00 y prynhawn. Cleddir ei weddillion ym mynwent y capel. Blodau'r teulu'n unig. Cyfraniadau os dymunir naill ai tuag at D.P.J Foundation neu Ward Dan Danino, Ysbyty Treforis, drwy law y Trefnwyr Angladdau
Hywel Griffiths a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol -y- Betws, Betws, Rhydaman, SA18 2HE. Ffon: 01269 593637.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Danny