Sion GeraintJONESHydref 28ain 2023, yn frawychus o sydyn yn 34 mlwydd oed. Mab, tad, brawd, nai, cefnder, yncl, ffrind caredig a ffyddlon i lawer ac yn fwy pwysig yn Dad balch, gwarchodus gyda calon pur. Bydd yn golled enfawr. Angladd ddydd Sadwrn, Tachwedd 11eg, gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Eglwys Sant Tegfan, Llandegfan am 11.30 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Yr Eglwys. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Sion yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Elusen Tir Dewi, Owen Robert Jones Forget Me Not ac MNDA (sieciau yn daliadus i cyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwyr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111.
Keep me informed of updates