Huw TreforJONESO'r "Gwendraeth", 25 y Ddol, Porthmadog. Hunodd ar y 25ain o Dachwedd, 2023 yn 91 oed. Gŵr annwyl Ann, tad gofalgar Iwan a Wyn, tad-yng-nghyfraith caredig Catrin ac Indeg. Taid llawn cariad tuag at ei wyrion, wyresau a'i or-ŵyr. Brawd y ddiweddar Eryl a ffrind ffyddlon i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 10.30 fore Sadwrn, 9fed o Ragfyr, i'w ddilyn gyda gwasanaeth o ddiolch a dathliad o'i fywyd am 1 o'r gloch y p'nawn yng Nghapel y Porth, Porthmadog. Derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at elusen Gafael Llaw, drwy law'r Ymgymerwyr,
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd, LL49 9RH, 01766512091 post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates