LeahJONESIonawr 4ydd, yn dawel gyda'i theulu ar ôl blwyddyn mor ddewr, yn Y Gelli, Prion, Dinbych.
Gwraig a chariad Eifion, Mam anhygoel Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys, nain arbennig Gwenno, Gruff, Llŷr, Eira, Caleb, Celt a Noa. Merch Beti a'r diweddar William Owen, chwaer Richard, a pherthynas annwyl Alwena, Dafydd, Chelsey, Fflur ac Owain.
Canu, cyfansoddi, arwain a hyfforddi - cyfoethogodd fywydau cannoedd. "Rhoi ei hoes fu rhoi i hon."
Angladd i'w theulu agos fore Iau, Ionawr 18fed, cyn gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch yn Y Capel Mawr, Dinbych, am 2.00 y p'nawn.
Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Nyrsus Cymunedol Dinbych a'r Eisteddfod Genedlaethol. trwy law
R.W.Roberts a'i Fab,
Gorffwysfa,
Ffordd Ystrad, Dinbych.
Ll16 4RH.
01745 812935
Keep me informed of updates