Deilwen MediJONESYn dawel ar ddydd Iau, Ionawr 11eg, yng nghwmni ei theulu, hunodd Deilwen, gynt o Blaenau Ffestiniog, Drefach a Tymbl yn 90 oed.
Priod ffyddlon y diweddar Barch.Tudor Lloyd Jones, mam annwyl Gwyn a Bethan, nain gariadus Rhodri, Rhys, Llyr a Cellan, hen nain falch Rheon a Non, mam yng nghyfraith barchus Caroline a Pete a chwaer hoffus Peter.
Bydd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Drefach fore Sadwrn Ionawr 20ed am 11.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig a rhoddion os dymunir i Amnest Rhyngwladol a Chymorth Cristnogol
drwy law O.G. Harries Cyf. Trefnwyr Angladdau, Bethel, Heol yr Orsaf, Pontyberem, Llanelli, SA15 5LF. (01269) 870350
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Deilwen