PhilipJONESIonawr 12, 2024
Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn 73 mlwydd oed o Gartref Preswyl Frondeg Maesincla, Caernarfon gynt o 8 Bryn Tirion, Penisarwaen. Mab tyner y diweddar John William a Maria Jones. Brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr annwyl ac arbennig, a ffrind hoffus i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, Chwefror 2, 2024 am 12.00 o'r gloch. Gwahoddir i chi wisgo lliw.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Mwynderau Frondeg (Frondeg Amenity Fund) ar gyfer cefnogi gweithgareddau y preswylwyr.
Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates