Mary EilunedJONES'Eiluned Penralltygwin'
Yn dawel ar fore ddydd Sul 11eg o Chwefror 2024 tra yng ngofal a chwmni ei theulu, hunodd Eiluned, sef Brenhines Aelwyd Penralltygwin ger Beulah, Castell Newydd Emlyn yn 104 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Daniel, mam dyner Beryl, Gareth ac Eilir a'u teuluoedd, ynghyd a'r diweddar Wyn.
Gwasanaeth Angladdol Hollol Preifat i'r teulu a gwesteion gwadd.
Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner, tuag at Meddygfa Emlyn, Castell Newydd Emlyn, trwy law yr ymgymerwr angladdau
Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH.
Keep me informed of updates