MairJONESMawrth 8fed, 2024, hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Cwr Y Coed, 1 Y Wern, Llanfairpwll, yn 81 mlwydd oed.
Gwraig annwyl Richard. Mam gariadus Jane, Helen ac Emyr. Mam yng nghyfraith Neil, Aled a Katie. Nain falch Emily, Madeleine, James a Rhys, Elin a Mared, Josh a Matthew. Hen Nain Fia, Grayson a Coen. Chwaer hoffus Greta, Helen a Dewi. Chwaer yng nghyfraith, modryb a ffrind teyrngar.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Rhos Y Gad, Llanfairpwll, ddydd Gwener, Mawrth 22ain am 11 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent newydd Llanystumdwy am 12:30.
Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Mair tuag at Feddygfa Llanfairpwll a Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd, trwy law yr ymgymerwyr H.O.Davies, 4 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NP.
Keep me informed of updates