John GwyneddJONESYn dawel ar y 25ain o Ebrill bu farw John Gwynedd Jones yn ei gartref yn Nant, Waunfawr. Gŵr caredig ac annwyl y diweddar Cadi Jones, tad cariadus a balch Osian, Meilir a Heddus, taid direidus Efa, Greta, Meri, Mali, Anni ac Owi , tad yng nghyfraith a ffrind arbennig Lynnsey ac Iwan Sion, brawd hoffus Menna Parry a Wil Morus Jones a ffrind i bawb. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Y Waun, Waunfawr am 12 o'r gloch dydd Mercher, 22ain Mai. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Achosion Da Pentref Waunfawr trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates