Agnes MayJONESDymuna Annwen a Gwynfor, Elwyn a Louise a theulu y diweddar Agnes May Jones, ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad â amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain, hen nain a ffrind annwyl iawn.
Gwerthfawrogir y llu o gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a'r rhoddion hael a dderbynwyd er cof am Agnes tuag at Ward 2 Ysbyty Bae Colwyn a Capel Tabernacl.
Diolch yn fawr i'r Parchedigion Alan Spencer a Graham Floyd am eu gwasanaeth teilwng a theimladwy ac hefyd i Mrs. Buddug Jones am ei chyfraniad wrth yr organ. Llawer o ddiolch hefyd i Hefin o gwmni R.W Roberts a'i Fab am y gwasanaeth trefnus, urddasol a phroffesiynol.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Agnes