Arthur GwynforJONES18 Mai, 2024
Cyn brifathro Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl
Hunodd Gwynfor yn dawel yn ei gartref yn Y Rhyl.
Priod cariadus Ceinwen a'r diweddar Enid, tad annwyl Rhian a Paul, Dewi a Ceri, Bethan a Mark ac Aled a Janet a llys-dad gofalgar John. Taid balch Sean, Michael a Catrin, Fflur a Ioan, Rachel a Scott ac Alys a hen daid Isaac, Noah, Lillie, Alfie, Efa a Macsen. Brawd hoffus Nan a ffrind cywir i lawer. Trist ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll.
Cynhelir gwasanaeth i gofio a diolch am ei fywyd yng Nghapel Clwyd Street Y Rhyl Ddydd Mawrth Mehefin 11eg am 3.00 o'r gloch y prynhawn.
Blodau gan y teulu'n unig ond, os dymunir, derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Gwynfor tuag at Tŷ Gobaith a Hosbis Sant Cyndeyrn trwy law Ivor Howatson a'i Fab, Stryd Sisson, Y Rhyl, Ffôn (01745) 331182
"Gwyn eu byd y rhai addfwyn"
Keep me informed of updates