PriscillaJONES29 Mehefin, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, (gynt o Gaernarfon ac yn wreiddiol o Benygroes) yn 98 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Dafydd, mam gariadus Gareth a Shirley, mam-yng-nghyfraith arbennig Mair Deborah a Meirion, a nain amhrisiadwy i'w holl wyrion a'i gor-wyrion. Bydd atgofion hapus amdani gan bawb oedd yn ei hadnabod. Angladd ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, 2024. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bangor. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ward Prysor, Ysbyty Gwynedd, lle derbyniodd ofal caredig iawn. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Priscilla