Myra WynnJONES25 Gorffennaf, 2024. Yn dawel yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, ac o Menai View, Carmel, yn 89 mlwydd oed.
Priod annwyl a chariadus y diweddar Hefin, a mam ofalus Gwynn, Ellen ac Alan; mam-yng-nghyfraith hoff Jane, Martin a Gwenno a nain falch Emma a Danial, Wayne a Sean, Sara a Cai, a'i gor-wyr a'i gor-wyresau. Chwaer garedig Elizabeth a'r diweddar Gwyneth, Eifion, Ken, Ieuan a'u teuluoedd.
Angladd fore Gwener, 9 Awst, 2024. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Carmel am oddeutu hanner dydd.
Blodau'r teulu, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at nyrsys Ysbyty Eryri mewn cydnabyddiaeth o'u gofal arbennig ohoni.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL 01286 881280.
Keep me informed of updates