Brenda Margaret JeanJONESRhagfyr 14eg 2024
Yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd yn 90 mlwydd oed, o Ty Uchaf, Cwm Eidda, Padog, gynt o Helmydd, Llangernyw.
Priod tyner y diweddar David Owen Jones, mam arbennig a chariadus John, Lowri, Delyth, Gwawr, Dafydd, Gerallt a Rheinallt, mam yng nghyfraith hoff Dei, Pierino, Phil, Greta, Gwenan a Valerie, nain glên a balch i Bethan, Emyr, Meinir, Glesni, Sabrina, Dylan, Ifan, Erin ac Alaw, hen nain ffeind i Seren ac Ori, chwaer hoff, modryb garedig a ffrind da i lawer. Bydd hiraeth diderfyn ar ei hôl.
Cynhelir angladd preifat i'r teulu agosaf yn unig yng Nghapel Padog a Mynwent Ysbyty Ifan gyda gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch yn dilyn yng Nghapel Seion, Llanrwst ddydd Mawrth Ionawr 7fed am 1.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir er cof tuag at
Meddygfa Betws Y Coed
Trwy law R.W. Roberts a'i Fab, Plas Tirion, Rhodfa Cinmel, Abergele, LL22 7LW Ffôn: 01745 827777
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Brenda