Gwladys DerwenaJONESYn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ddydd Llun, 9 Rhagfyr, yn 99 mlwydd oed, bu farw Derwena, Cartref Marbryn, Caernarfon, gynt o Ala Las, Caernarfon a Llwyn-y-gân, Llanfyllin.
Gwraig ffyddlon y diweddar Emrys am 70 mlynedd, mam annwyl Geraint a'i wraig, Ann, ac Alwena a'i gŵr, Gwyn; nain gariadus Llŷr a Lowri, Gethin a Katie, Eleri a Rob, Rhydian a Betsan, Heledd a Huw, ac Emyr a Ffion, hen nain falch Math, Gwern ac Ynyr, Ioan, Osian, Dyfan a Mabli, Nico, Joseff a Mari, a chwaer hoff Myfanwy a Hefina.
Cynhelir gwasanaeth o ddiolchgarwch i ddathlu ei bywyd yng Nghapel Seilo, Caernarfon, ddydd Llun, 30 Rhagfyr am 1.00 o'r gloch. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Derwena tuag at Eglwys Seilo, Caernarfon, Cartref Gofal Marbryn, Caernarfon, a Chymorth Cristnogol.
Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwladys