William HenryJONES11 Chwefror 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o 25 Maes Machraeth, Llanfachraeth yn 88 mlwydd oed.
Brawd hoff Vaughan a'r ddiweddar Vera, Ceinwen, Bet a Annie, brawd yng nghyfraith Brenda ac ewythyr hoff ei nithoedd a'i neiaint. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Iau, 6ed o Fawrth. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 2.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Eglwys Sant Mihangel, Fali.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ward Dulas, Ysbyty Gwynedd trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William