William LloydJONESDymuna Eiddwen, Dylan, Arwel a'r teulu ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli William.
Diolch am y llu o gardiau, galwadau ffôn a'r ymweliadau, ac yn arbennig am yr rhoddion er côf am William i'r elusennau Marie Curie a Hospice at Home a fu mor ofalus ohono.
Diolch hefyd i'n ffrind Aled Lewis Evans am ei wasanaeth urddasol yn yr Ymlosgfa Pentrebychan. I Maldwyn Davies am ei deyrnged hwyliog ar ran y teulu, ac i Robert Bros am eu gwasanaeth a'r trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William