DelythJONES5ed Hydref 2026. Yn sydyn yn ei chartref Tyn Y Waen, Dinas, Pwllheli yn 58 mlwydd oed. Merch y diweddar Robin a Megan Roberts (Sarn Mellteyrn). Priod annwyl Dafydd. Mam gariadus Llŷr a Harri. Chwaer hoffus Grace Ann ac Emyr a chwaer yng nghyfraith Ifor a Gwenlli. Modryb addfwyn a ffrind i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Dinas dydd Iau, 22ain Hydref am 11 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Dinas. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gronfa Mesen trwy law'r ymgymerwr angladdau (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion). Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates