John VincentJONES24ain o Hydref, 2026. Hunodd yn ddisymwth ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yng nghwmni ei deulu yn 96 mlwydd oed, o Delfryn, Dyffryn Ardudwy.
Priod ffyddlon y ddiweddar Alice, tad cariadus Meryl a thaid balch a gofalgar i Rhys. Brawd caredig y ddiweddar Meirwen a'i gŵr Dei. Ewythr annwyl i'w nithoedd a'i neiaint oll, yn arbennig Elizabeth, Dylan ac Elen a'r diweddar Trevor a Kenneth. Brawd yng nghyfraith hoff i Blodwen, Harri, Meurig, Oscar, Rhian a'r diweddar Gruffydd a Robin. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb Dyffryn Ardudwy, ddydd Gwener Tachwedd 13eg am 11.00 o'r gloch ac yna i ddilyn ym Mynwent Newydd Dyffryn Ardudwy.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Nyrsys Cymunedol Bermo a Dolgellau trwy law'r ymgymerwyr
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates