Dewi MeurigLAKERhos Helyg, Ffordd Penamser, Porthmadog. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ddydd Iau, 25ain o Orffennaf 2024. Gŵr annwyl a chadarn Carys; tad a thad yng nghyfraith balch a chariadus Dafydd a Llinos, Euros a Llinos, Gutun a Cerys, Cadi ac Owain, a thaid a oedd wedi gwirioni efo'i wyrion a'i wyresau: Gwydion, Alaw, Elgan, Mali, Osian, Elliw a Tryfan; mab y diweddar Barchedig Islwyn a Gwyneth Lake; brawd Cynfael, Llinos, Heledd a Llŷr. Ar ôl gwasanaeth preifat yn y bore, fe gynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Dewi, ddydd Llun y 5ed o Awst am 2 o'r gloch yng Nghapel y Porth, Porthmadog. Derbynnir rhoddion er cof am Dewi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac i Gwmni Bro Ffestiniog. Dymuna'r teulu ddiolch o galon am bob cefnogaeth, cariad a nerth. Ymholiadau pellach a rhoddion i'r ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog,
Gwynedd LL49 9RH
01766512091
post@pritchardgriffiths.co.ukj
Keep me informed of updates