John HywelLEWISHunodd John yn dawel yn Ysbyty Llandochau, gyda'i deulu o'i amgylch, ddydd Mercher, Tachwedd 12 yn 66 mlwydd oed; gwr cariadus Jayne, tad balch ac arbennig Tomos a Huw, brawd a brawd-yng-nghyfraith hoffus, ac ewythyr caredig i bob nith a nai. Dyn galluog, addfwyn ac ymroddgar a fydd yn golled i bawb oedd yn ei adnabod. Mae John yn gorffwys yng ngofal Gareth Evans, Trewilliam. Cynhelir angladd gyhoeddus ar ddydd Gwener, Tachwedd 28, yng Nghapel Bethel, Heol Plassey, Penarth am hanner dydd, ac yna, i ddilyn, yn Amlosgfa Parc Cofiant Caerdydd a Morgannwg, Port Road, Y Barri, am 1.30 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig, os gwelwch yn dda, a cyfraniadau, os dymunir, i Ward West 6, Ysbyty Llandochau, trwy law Mr Edryd Lloyd, Capel Bethel, Heol Plassey, Penarth.
Keep me informed of updates