Gwilym GoronwyLEWISLEWIS - GWILYM GORONWY , Hydref 16eg, 2018 . Yn frawychus o sydyn yn ei gartref, 39 Heol Fadog, Porthmadog yn 85 mlwydd oed. Gwr cariadus y diweddar Gwladys, tad gofalgar Sulwen, Tony, Dewi, Bronwen ac Elfyn, taid a hen daid balch ei holl wyrion a'i wyresau. Ffrind ffyddlon Anna. Gwasanaeth i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Salem, Porthmadog ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Dachwedd am 11 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Treflys. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Goronwy tuag at Glwb Bowlio Gest trwy law yr Ymgymerwr, Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog.
Keep me informed of updates