UndegLEWISYn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Mawrth Ebrill 7fed, Undeg o Bro Beca, Efailwen. Priod annwyl Tudur, mam gariadus Rhodri, Gwyndaf a Nia, merch ffyddlon Tegwyn ac Elda Evans, Heulwen, Saron, merch yng nghyfraith barchus Mefin, chwaer dyner Elin a Delyth a chwaer yng nghyfraith ac anti hoffus. Cynhelir angladd breifat yng Nghapel Calfaria, Login ddydd Mercher Ebrill 22ain. Gwasanaeth coffa i ddilyn ar ddyddiad i'w drefnu pan fydd y sefyllfa yn caniatau. Dim blodau ond derbynnir rhoddion er côf os dymunir tuag at Uned Gofal Dwys, Ysbyty Glangwili, trwy law Dennis Jones Trefnwr Angladdau, Maesawelon, Efailwen. SA66 7UX Ffon 01994 419561.
Keep me informed of updates