JanetLEWISYn dawel ar ddydd Sul, Tachwedd 7fed yn Ysbyty Glangwili, yn 65 mlwydd oed, hunodd Janet, Green Hall, Pontargothi. Nyrs boblogaidd ac uchel ei pharch yn Ysbyty Glangwili ac yn y gymuned leol. Merch annwyl y diweddar Maldwyn a May, nith a chyfnither hoffus a chyfaill arbennig i nifer, heb anghofio Iolo'r ci bach. Angladd Sadwrn, Tachwedd 20fed 2021. Gwasanaeth cyhoeddus yn Siloam, Pontargothi am 10.30yb. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at 'CDU Glangwili Hospital' trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100 / 01267 241626
Keep me informed of updates