Margaret RoseLEWIS.11eg o Orffennaf 2023. Hunodd yn dawel o Gallt-y-llan, Penegoes, Machynlleth yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl a gofalus Alun, mam a mam-yng-nghyfraith addfwyn i Philip a Nia, Lynwen a Dewi, nain gariadus Heledd, Megan, Lowri, Harri a Glain, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith hoffus. Gwasanaeth i'r teulu yn unig yng Nghapel Maengwyn, Machynlleth, dydd Mawrth, 1af o Awst am 1 o'r gloch. Blodau i'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Diabetes UK Cymru trwy law Aled ac Angela Davies, Penybryn, Cemmaes, Machynlleth, Powys, SY20 8QP. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret