IonaLLOYD-WILLIAMS30ain Mawrth 2024. Hunodd yn dawel yng nghwmi ei theulu yn Ysbyty Gwynedd Bangor ac o Tan Y Coed, 9 Ala Las, Caernarfon y 80 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Gareth Lloyd-Williams, mam gariadus a chefnogol Huw, Siwan a Shoned, nain "Nins" hwyliog a charedig Mathew Cai, Jac, Gruffudd, Osian a Caleb, chwaer a modryb hoffus a ffrind triw i lawer. Bydd yn golled i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Mawrth, 16eg Ebrill am 10 y bore. Blodau teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Iona tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates