HelgaMARTINAr Fai 22ain 2026, bu farw Helga Martin, Hafan, Ysbyty Ifan, yn 91 oed.
Roedd Helga'n wraig annibynnol iawn, yn frwdfrydig dros bopeth Cymreig (a Chymraeg yn arbennig), yn hynod o weithgar mewn nifer o fudiadau a chymdeithasau, a phob amser yn hael a pharod ei chymwynas.
Cynhelir ei hangladd cyhoeddus ym mynwent Capel Ysbyty Ifan am 1.30 o'r gloch ddydd Iau, 25 Mehefin 2026.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gymdeithas Bob Owen a'r R.S.P.B. trwy law yr ymgymerwr, Peredur Roberts, Gweithdy'r Gof, Pentrefoelas, LL240HY, 07544 962669
Keep me informed of updates