Hilda MaryMASONYn dawel ar ddydd Mercher Ionawr 13, 2016, Hilda, New Inn, Cwmerfyn, Aberystwyth; priod annwyl y diweddar Elwyn, mam dyner David a Margaret, mam yng nghyfraith barchus Mair a Henry, mamgu annwyl Rhydian a Rhian a hen famgu hoffus Gwenllian, Morgan ac Eurig. Gwasanaeth yng Nghapel Siloa, Cwmerfyn ar ddydd Mercher Ionawr 20, 2016 am 2.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Hilda tuag at 'Capel Siloa' trwy law Selwyn Evans, D J Evans Cyfarwyddwyr Angladdau, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth SY2EQ. Ffôn 01970 820249.
Keep me informed of updates