Rachel Elizabeth DoreenMORGAN(Betty) Yn dawel ar ddydd Llun Tachwedd 14, 2016 hunodd Betty 'New Rd', Castellnewydd Emlyn yn 79 mlwydd oed; priod annwyl y diweddar Cecil, mam dyner Margaret, Gerald, Christopher ac Alison, mam-yng-ngyfraith barchus Sandra, Barry, Gill a'r diweddar Huw, mamgu hoffus Carys, Tammy, Carrie-Ann, Carl, Marged ac Elen a hen-famgu gariadus Elin, Sara, Alyssa a Bella. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus a cladd-edigaeth yn Eglwys y Drindod, Castellnewydd Emlyn ddydd Sadwrn Tachwedd 19 am 2.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at Meddygfa Emlyn trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates