Iorwerth ThomasMORGANMORGAN - IORWERTH THOMAS, . Hydref 12fed 2019 Yn frawychus o sydyn yn ei gartref 32 Ger y Bont, Abererch, yn 52 mlwydd oed. Tad cariadus Ffion, Kieran, Keri, Louisa, Millie a Lewis, annwyl fab Charles a'r ddiweddar Sally. Brawd hoffus Arfon, David, Catherine, Anwen, Sian a'r diweddar Alwyn. Brawd yng nghyfraith Edwyn, Bob a Kate, a ffrind hoffus i lawer. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Soar Nefyn Dydd Gwener Hydref 25ain am 11.00 o'gloch, ac i ddilyn ym Mynwent Nefyn. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Apel Ambiwlans Awyr Cymru trwy law G W Parry Gallt y Beren Rhydyclafdy 01758 740233.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Iorwerth