Mary EllenMORGANTachwedd 14eg, 2022. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd yn 84 mlwydd oed. Gynt o Cefngaer Bach, Llaniestyn. Annwyl briod y diweddar Eric, mam arbennig Ian a'i briod Ruth, Elwyn a'i briod Emma, nain falch Christopher a'i chymar Hollie, Jenny a'i phriod Andy, Cassie a'i phriod Grorge, Katie a'i chymar Jack, hefyd hen nain i Freddie a Arthur, hoff chwaer Elisabeth, Margaret, John El, Sally a'r ddiweddar Dora, chwaer yng nghyfraith i John,Trefor, Liz, Charles a Llew. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Dinas ddydd Mercher, Tachwedd 23ain, 2022 am 11 o'r gloch yna i ddilyn ym Mynwent y Capel. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Mary tuag at Feddygfa Rhydbach a Royal Osteoporosis Society trwy law G D Roberts a'i Fab, Capel Gorffwys, Pwllheli, 01758 701107.
Notify me with new activity on this notice