Richard GarethMORGAN12 Hydref, 2026. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o 2 Llwyn Onn, Groeslon, Caernarfon, yn 87 mlwydd oed. Priod cariadus a ffyddlon Olwen, tad annwyl Eirian, tad-yng-nghyfraith hoff Paul, taid arbennig Mark, Mathew a Sion, hefyd Cara a Tesni, a hen daid balch Tommy, Efan, Arthur a Jack. Brawd bach triw y diweddar Gwyneth, ewythr hoff Gwynedd Glyn, Gwawr a'u teuluoedd, a ffrind gofalus i lawer. Colled enfawr i'r teulu.
Angladd fore Llun, 9 Tachwedd, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Brynrodyn.
Dim blodau, ond derbynir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gareth, pe dymunir.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. Ffon: 01286 881280
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard