Huw IorwerthMORRISHafod Wen, Pentrefoelas. Dymuna Olwen, Lowri, Gwawr ac Eleanor a'u teuluoedd diolch yn fawr iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Huw Iorwerth, gwr, tad a thaid annwyl iawn. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn. Diolch yn fawr i'r Parch Huw Dylan am ei wasanaeth urddasol a chynnes ddydd yr angladd ac hefyd i Peredur Roberts a'i gwmni ymgymerwyr am eu gwaith proffesiynol hefo'r trefniadau. Diolch yn arbennig i'r Gofalwyr lleol am eu gofal a'u caredigrwydd tuag at Huw dros y blynyddoedd diwethaf, hefyd i'r Meddygon a'r tim ym Meddygfa Uwchaled ac i'r Nyrsys Ardal i gyd am eu cefnogaeth a'u gofal hwythau. Mae'r cyfan oll wedi bod o gymorth mawr i ni fel teulu a diolch o galon eto i bawb.
Keep me informed of updates