BettyMORRISEbrill 9fed 2022 hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu cariadus yn Plas Ogwen, Bethesda (diolch i'r gofalwyr) o 41 Ffordd Tanrhiw, Tregarth (gynt o Bryn Awel, Sling) yn 92 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar O.G. Morris, mam arbennig iawn Gwenda, Gwyn, Rhiannon a Bethan, mam yng nghyfraith Keith, nain gariadus Lowri, Ffion, Fflur, Mari, Emma, Sophie, Robert, Elin a Nel, hen nain hoffus Alaw, Gruff, Betsan, Twm, Macsen, Ifan, Nyfain a Gwilym, ffrind arbennig Anne. Colled enfawr i'w holl deulu a ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa, Bangor ddydd Llun Ebrill 25ain am 3.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Awyr Las. Ymholiadau i Gareth Williams trefnwr Angladdau 1 Garneddwen, Bethesda Ffôn:01248 600763/07708008051
Keep me informed of updates